Ymhell o fod yn ben dafad

Mae rhaglen ysgoloriaeth ffermio Llyndy Isaf, a gynigir gan yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru mewn partneriaeth â Chlybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru, wedi cychwyn ar ei hail flwyddyn drwy groesawu ysgolor newydd, Tudur Parry.

Trosglwyddir agoriadau Llyndy Isaf gan un myfyriwr ysgoloriaeth i’r nesaf. ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Trosglwyddir agoriadau Llyndy Isaf gan un myfyriwr ysgoloriaeth i’r nesaf.
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Pan ofynnwyd i Tudur am ei obeithion gyda’r ysgoloriaeth dywedodd Tudur: “Cefais fy magu ar fferm wartheg, felly rydw i’n gobeithio datblygu’r ochr honno o’r busnes. Hoffwn wella fy medrau trin defaid hefyd ac rydw i eisoes wedi rhoi fy enw i lawr ar gyfer cwrs cneifio. Rydw i’n awyddus iawn i wneud yn fawr o’r cyfle hwn.

Cynlluniwyd yr ysgoloriaeth 13-mis gyda thâl i ddarparu’r ysgolor gyda phrofiad gwerthfawr mewn rheoli a chynnal fferm, yn cynnwys cyfrifoldeb am gyllideb flynyddol, gweinyddu a da byw’r fferm. Mae hyfforddiant yn rhan hanfodol o’r profiad ac wedi ei gynllunio i ateb anghenion penodol pob ysgolor. Mae cefnogaeth ac arweiniad i’w cael o fewn milltir i’r fferm gan Arwyn Owen, Rheolwr Fferm profiadol Hafod y Llan, a fydd yn gweithredu fel mentor i’r ysgolor.

Caryl Hughes oedd y cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen ysgoloriaeth. Bu’n rhaid iddi gychwyn o’r newydd wrth brynu diadell o ddefaid a sefydlu gyr bach o wartheg. Wrth fwrw trem yn ôl ar ei phrofiadau, meddai: “Rydw i wedi ei fwynhau’n fawr ac mae’n anodd gen i gredu bod blwyddyn gron wedi gwibio heibio mor gyflym! Mae’r gwaith wedi bod yn hynod o amrywiol – dim ond ddyddiau ar ôl cychwyn ar yr ysgoloriaeth roeddwn yn helpu i drefnu hofrennydd i gludo 1,000 o byst i ffensio’r terfyn. Rydw i wedi mynychu sawl cwrs hyfforddi, o gneifio i gadw gwenyn! Mi oedd yn gyfle unwaith mewn oes ac rydw i’n siŵr y bydd Tudur yn cyflawni gwaith gwych.”

Yn ogystal â’r holl ddyletswyddau ffermio beunyddiol cafodd Caryl sylw mawr gan y cyfryngau. “Oherwydd bod y project yn unigryw a gan mai fi oedd yr ysgolor cyntaf, oedd hefyd yn ferch, bu llawer o ddiddordeb yn y wasg. Cefais gyfweliad ar Countryfile, Woman’s Hour, y BBC a Heno, i enwi ond ychydig”, meddai Caryl. “Mae wedi helpu fy hunan hyder yn ogystal â bod yn llawer o hwyl – dim ond mis neu ddau’n ôl galwodd yr actor Matthew Rhys heibio’r fferm ac mi wnes ei ddysgu i gneifio!”

Bydd Caryl a’i chŵn defaid, Mist, Shep a Jess, bellach yn symud i borfeydd newydd gan wybod eu bod wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Llyndy Isaf. I nodi ei chyfraniad i’r fferm plannodd Caryl goeden dderw ifanc yn y gwanwyn, rhywbeth a ddaw’n draddodiad i bob ysgolor yn Llyndy Isaf.

“O ystyried natur arbennig y llecyn hwn, roeddem am sicrhau ei fod yn cael ei warchod mewn dull arbennig ac rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed drwy gyfrwng y rhaglen ysgoloriaeth. Mae’r bartneriaeth gyda CFfI Cymru wedi bod yn werthfawr iawn,” meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth yn Eryri a Llŷn. “Rydym yn hynod o falch bod Tudur wedi ymuno â’r tîm ac rydym yn siwr y bydd ganddo lawer i’w gynnig i’r fferm ac y bydd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Caryl.”

Ychwanegodd Iwan Thomas, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru, “Wrth i un bennod ddod i ben, mae un arall yn cychwyn a hoffem longyfarch Tudur ar gael ei ddewis fel yr ail ysgolor. Rydym yn edrych ymlaen at weld Tudur yn parhau â’r gwaith gwych yn Llyndy a gadael ei farc ei hun ar yr ysgoloriaeth a’r fferm yr un pryd. Mae’r ysgoloriaeth hon wedi cyflwyno cyfle gwych i GFfI Cymru gydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chyrff eraill i feithrin doniau a darparu cyfleoedd i ieuenctid gwledig Cymru.”

Leave a comment