Mynedfa newydd i Eryri

Hyd yma, cyfyngwyd tystiolaeth o bresenoldeb yr Ymddiriedolaeth yn Eryri i’n cerbydau, staff ar waith a’n harwyddion – ond eleni bydd hyn yn newid gan ein bod wedi prynu adeilad hardd newydd, Bwthyn Ogwen, yn ddiweddar.

Bwthyn Ogwen, Eryri ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Bwthyn Ogwen, Eryri
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau yn Eryri, y darn mwyaf o dir gwyllt yn Lloegr a Chymru, wedi bod yng ngofal yr Ymddiriedolaeth ers 1951. Defnyddiwyd Bwthyn Ogwen fel canolfan gweithgareddau awyr agored ers blynyddoedd a gobeithiwn barhau â’r traddodiad hwn. Rydym yn bwriadu defnyddio’r adeiladau i annog miloedd o bobl i fentro i’r awyr agored ac yn nes at fyd natur.

Mae’r bwthyn, a saif ar yr A5, wedi bod yn fan cychwyn i lawer o lwybrau cerdded a dringo poblogaidd. O’r gwanwyn hwn dyma fydd canolfan newydd ein tîm o geidwaid yn y Carneddau a’r Glyderau hefyd. Felly, os ydych yn yr ardal, galwch heibio am sgwrs ac i ddysgu mwy ynglŷn â sut i wneud yn fawr o’ch ymweliad ag Eryri.

Gwartheg Dinefwr yn sêr y sgrîn deledu am noson

Rhoddwyd sylw unwaith eto i’r brîd hynafol Gwartheg Gwyn Parc Dinefwr wrth iddynt gael eu dangos ar un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain y mis hwn.

Gwartheg Gwyn enwog Parc Dinefwr ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gwartheg Gwyn enwog Parc Dinefwr
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ar 18 Ionawr darlledwyd rhaglen Countryfile y BBC o Barc Dinefwr, meddiant yr Ymddiriedolaeth yn Sir Gaerfyrddin, a chafwyd hanes difyr y gyr eiconig o Wartheg Gwyn y Parc.

Mae cofnodion am Wartheg Gwyn Parc Dinefwr yn dyddio’n ôl i’r flwyddyn 920 ac fe’u crybwyllwyd yng nghyfreithiau Hywel Dda. Roedd yn byw yng Nghastell Dinefwr, sy’n edrych i lawr dros y tirlun a gynlluniwyd o flaen Tŷ’r Drenewydd ac a borir heddiw gan y gwartheg.

Mae’r cyflwynydd Adam Henson, sy’n enwog am ei ran ‘Adam’s Farm’ ar y rhaglen, yn gyfarwydd â’r brîd cyntefig gan ei fod ef, ynghyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn berchen ar un o’r casgliadau olaf o’r gwartheg yn y DU. Bu’n sefyll ymysg y gwartheg wrth sgwrsio â staff a helpu’r cowmon gyda’i orchwylion beunyddiol.

Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Carol Bailey a Dai Hart oedd yn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth yn ystod y diwrnod o ffilmio a bu’r ddau’n amlygu pwysigrwydd yr anifeiliaid o ran cadwraeth a’u hanes hir yng Nghymru.

Roedd cefndir y Gwartheg Gwyn o ddiddordeb arbennig i Adam Henson, sydd wedi credu erioed mai’r Rhufeiniaid â’u cyflwynodd i’r DU.

Meddai Sophie Thomas, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau’r Ymddiriedolaeth yn Sir Gaerfyrddin, “Roeddem yn gallu herio theori Adam am DNA y Gwartheg Gwyn oherwydd yn ddiweddar rhoddwyd profion genetig ar waith arnynt, a chafwyd ar ddeall mai ychydig iawn o gysylltiad, os oedd cysylltiad o gwbl, oedd rhwng ein gwartheg â Gwartheg Gwyn yr Eidal.

Mae’r rhifyn o Countryfile sy’n dangos Dinefwr ar gael i’w wylio yma drwy gyfrwng BBC iPlayer.

Cynhelir teithiau rheolaidd ac mae llwybr hunan-dywys o amgylch Gwartheg Gwyn Parc Dinefwr. Ffoniwch 01558 824512 neu ewch i www.nationaltrust.org.uk/dinefwr

Arfordir Cymru 2015

Gan fod Apêl y Glannau yn 50 oed, rydym yn neilltuo 2015 fel blwyddyn arfordir Cymru a’n bwriad yw cynnal digwyddiadau a phrojectau newydd i amlygu ein gofal am rannau o’r arfordir sydd ymysg yr harddaf yn y byd.

Hedfan barcud ym Mae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, Abertawe, Cymru ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar

Hedfan barcud ym Mae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, Abertawe, Cymru
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar

Ynghyd â llyfryn arbennig, mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru’n cynllunio cyflwyniad fideo newydd trawiadol o’r arfordir o’r awyr, a fydd ar gael ar-lein. Wrth gydweithio gyda Chadw Cymru’n Daclus, rydym wedi datblygu fwyfwy ar ap Arfordir Cymru a chynhelir digwyddiadau ar safleoedd arfordirol ledled y wlad.

Mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn gwarchod 157 milltir o’r arfordir sy’n hoff gennych chi, rhywbeth rhyfeddol sy’n digwydd oherwydd cyfraniadau parhaus gan y cyhoedd. Dyna ddwy filltir o’r arfordir ar gyfartaledd sydd wedi eu hachub bob blwyddyn ers sefydlu’r apêl ym 1965. Diolch i chi am eich cefnogaeth; heb hon ni fyddem yn gallu gwarchod mannau arbennig i bawb, am byth.

Hanes yr Apêl

Rydym yn gallu gofalu am ardaloedd o harddwch eithriadol fel Bae Rhosili a Stagbwll a thraethau hyfryd a dirgel Ceredigion, Llŷn ac Ynys Môn o ganlyniad i lwyddiant Apêl y Glannau, ymgyrch arbennig i godi arian a lansiwyd ym 1965.

Edrych dros dywod tonnog ger Twyni Chwitffordd, Penrhyn Gŵyr, Cymru ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/David Noton

Edrych dros dywod tonnog ger Twyni Chwitffordd, Penrhyn Gŵyr, Cymru
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/David Noton

Yn yr 1930au, pan roedd yr Ymddiriedolaeth yn gwarchod dim ond wyth milltir o arfordir Cymru, daeth yr hanesydd Charles Trevelyan ar ymweliad â Sir Benfro a chafodd gryn fraw o weld bod datblygiad yn bygwth harddwch yr arfordir. Meddai “Mae angen gwarchodaeth ar frys ar yr arfordir yn ei holl ogoniant”. Yng nghanol yr 1960au lansiwyd yr apêl gyda phryniant Twyni Whitffordd ar Benrhyn Gŵyr. Ers hynny, mae ein gwarchodaeth o rannau gorau arfordir Cymru wedi cynyddu i gyfanswm o 157 milltir, sef oddeutu un filltir ym mhob deg.

Crybwyllwyd y syniad o apêl i warchod y glannau am y tro cyntaf gan Christopher Gibbs, y Prif Asiant ar y pryd, mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Mawrth 1962. Cynigiodd y dylid lansio apêl “am arian i brynu tir neu gyfamodau er mwyn gwarchod arfordir Lloegr a Chymru” mewn cydweithrediad â’r ‘Council for the Protection of Rural England’.

Cynhaliwyd digwyddiad swyddogol cyntaf o bwys Apêl y Glannau ar 12 Tachwedd 1964, sef cinio bach yn Neuadd y Gwerthwyr Pysgod, gyda’r nod o ddod â’r project ‘i sylw arweinwyr diwydiant a masnach’.

Daethpwyd â’r apêl i sylw aelodau’r Ymddiriedolaeth yng nghyfarfod blynyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Royal Festival Hall, Llundain, ar 8 Mawrth 1965 ac at sylw’r cyhoedd ar 23 Ebrill 1965 pan oleuwyd cyfres o danau a choelcerthi ar fannau uchel ledled y wlad gan amrywiol gyrff ieuenctid i nodi sefydlu’r apêl.

Cynhaliwyd lansiad swyddogol yr apêl mewn cinio ym Mansion House ar 11 Mai 1965 pan roddodd y Tywysog Philip, a oedd wedi cytuno i fod yn noddwr yr apêl, araith i 250 o westeion dethol yn gofyn am eu cefnogaeth. O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, derbyniwyd nifer o gyfraniadau sylweddol (yn ogystal â chyfraniad o £250,000 a oedd wedi ei roi eisoes gan y Trysorlys) ac fe gafodd Apêl y Glannau gychwyn da.

Her y Tridant

Rydym yn dathlu llwyddiant Apêl y Glannau – ond mae’r gwaith o godi arian yn parhau – ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gerdded adrannau o’r arfordir yn cludo ‘Tridant Neifion’ ar y daith.

Y gwirfoddolwr George Smith yn naddu ‘Tridant Neifion’ ar gyfer Apêl y Glannau ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Lowri Roberts

Y gwirfoddolwr George Smith yn naddu ‘Tridant Neifion’ ar gyfer Apêl y Glannau
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Lowri Roberts

George Smith (yn y darlun), gwirfoddolwr sy’n gweithio yng Nglan Faenol, ger Bangor, yw crëwr ‘Tridant Neifion’. Meddai, “Rydw i wedi defnyddio pren o’r goedlan leol ar hyd glan yr afon Menai i gerfio tridant gyda’i dri phigyn”. “Rydw i wrth fy modd gyda defnyddiau naturiol ac yn hoffi her. Cerflunio’r tridant unigryw hwn ar gyfer ei gludo ar hyd yr arfordir yw fy nghyfraniad i at achos mor dda”.

Drwy gydol 2015, y nod yw gweld y tridant yn cael ei gludo ar hyd holl arfordir Cymru sy’n cynnwys yr 157 milltir a warchodir gennym. Mae Richard Neale, sy’n rheoli Project Arfordir Cymru, yn erfyn ar fwy o bobl fel George i wneud rhywbeth arbennig i ddathlu ein harfordir yn 2015.

“Rydym yn gofyn i bobl ein helpu i godi arian i’n galluogi i greu dros 10 cilometr o lwybrau arfordirol newydd yng Nghymru yn 2015. Bydd y rhain yn cysylltu Llwybr poblogaidd Arfordir Cymru gyda rhai o’r safleoedd bywyd gwyllt gorau yn ein gofal, yn cynnwys pump o guddfannau gwylio bywyd gwyllt newydd a phedwar llwybr hunan-dywys.”

Os ydych yn barod am yr her cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Lowri Roberts, Swyddog Project yr Arfordir (ar lowri.roberts@nationaltrust.org.uk) cyn 31 Ionawr, gan nodi pa mor bell yr hoffech gerdded a pha adran yr hoffech ymgymryd â hi.

Darlun yn dweud y cyfan yn Erddig

Fel y gwelwch o’r lluniau yma, manteisiodd Erddig ar nosweithiau tywyll y gaeaf i ddangos gwir harddwch y ty a’r gerddi. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar nosweithiau Gwener a Sadwrn drwy gydol mis Rhagfyr, yn hynod o drawiadol.

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Rhwystro da byw rhag crwydro, ond nid y draenog

Dyna drueni i’r hen ddraenog. Yn gyfaill i’r garddwr, mae ei fywyd mewn perygl parhaol – yn enwedig os yw’n crwydro’n rhy agos i fualch, neu grid gwartheg, nad yw’n peri perygl i neb arall. Mae Simon Rose, Ceidwad Ardal Bannau Brycheiniog, wedi bod yn ystyried tynged ein cyfaill pigog.

Bualchau’n cael eu codi ar fferm Parc Lodge, ger Y Fenni ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Simon Rose

Bualchau’n cael eu codi ar fferm Parc Lodge, ger Y Fenni
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Simon Rose

Saif dau fualch ar yr heol i fferm Parc Lodge ger mynydd Pen-y-fâl, Y Fenni. Treuliwyd amser a gwariwyd arian yn trwsio’r ddau ohonyn nhw dros y blynyddoedd ond gan fod da byw’n gallu eu croesi, penderfynwyd bod angen gosod rhywbeth yn eu lle. Yn fwy na hyn, pe bai bywyd gwyllt yn cwympo rhwng bariau’r hen fualchau, doedd dim ffordd iddo ddringo allan.

Meddai Simon Rose: “Penderfynais fwrw ymlaen â gosod gridiau sy’n cynnal 2 x 50 tunnell. Cytunodd Graham, y tenant, i gyfrannu’n ariannol at y gridiau newydd a chryfach, yn ogystal â chynorthwyo drwy roi benthyg ei dractorau i gludo offer o le i le.

“Cafwyd ambell i broblem oherwydd y lleoliad. Dyma’r unig fynediad ar yr heol ac mae’n cael ei ddefnyddio gan feddiant arall yn ogystal â’r fferm. Roedd dewis dyddiau i gau’r heol a oedd yn hwylus i bawb, a chadw at y dyddiadau o dan amgylchiadau’r tywydd, yn gryn gamp!”

Lluniwyd yr hen fualchau o goncrid cast wedi ei atgyfnerthu ac roedd yn anodd iawn eu malu, ond llwyddwyd i wneud hynny yn y pen draw. Cymerwyd y cyfle hefyd i’w lledu fel bod peirianwaith fferm gyda lled o dri metr yn gallu eu croesi.

Rydym yn falch iawn hefyd o adrodd bod tyllau draenio wedi eu gosod ynghyd ag ystolion fel bod draenogod yn gallu dianc ohonyn nhw.

Find out more: http://nationaltrustbreconbeacons.wordpress.com

Ffosydd: allwedd annhebygol i reoli gollyngiadau o garbon

Rydym i gyd yn ceisio dod o hyd i ddulliau cyfrifol o leihau ein gollyngiadau o garbon. Fodd bynnag, mae swm enfawr o garbon deuocsid hefyd yn cael ei ‘gadw’ mewn cynefinoedd o fawndir fel y rhai sy’n cael eu gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru.

Andrew Roberts a Pete Jones yn archwilio craidd mawndir ar y Migneint ar Stad Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, i’r de o Fetws-y-coed ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Helen Buckingham

Andrew Roberts a Pete Jones yn archwilio craidd mawndir ar y Migneint ar Stad Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, i’r de o Fetws-y-coed
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Helen Buckingham

Cawsom air gydag Andrew Roberts, Prif Geidwad Stad Ysbyty, a welir yn y llun uchod yn archwilio canlyniadau digon di-nod yr olwg, ond defnyddiol, o ‘gau ffosydd’ ar ein meddiant i’r de o Fetws-y-coed yng Nghonwy.

“Pe baech wedi dweud wrthyf 30 mlynedd yn ôl pan ymunais â’r Ymddiriedolaeth y byddwn yn rheoli carbon fe fyddwn wedi meddwl eich bod yn siarad trwy eich het. Ond doedden ni ddim yn sylweddoli bryd hynny pa mor bwysig yw mawndir am rwystro nwyon tŷ gwydr rhag mynd i’r atmosffer.

“Bellach rydym yn gwybod bod oddeutu hanner y 100 biliwn tunnell fetrig o garbon sydd wedi eu cloi ym mhridd y DU mewn cynefinoedd mawndir. Dyma fwy na holl fforestydd Ewrop ac, erw-am-erw, mae’n bwysicach na choedwig law’r Amason.

“Un o’r ardaloedd mwyaf o fawn yn y DU yw’r Migneint ar Stad Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, bum milltir i’r de o Fetws-y-coed. Cawsom wybod bod hen ffosydd draenio’n peri i’r storfa bwysig hon o garbon ddirywio, gan ollwng y swm rhyfeddol o 50,000 tunnell fetrig o garbon i’r atmosffer bob blwyddyn. Dyna gymaint â 20,000 o geir teuluol am flwyddyn ar gyfartaledd.

“Rydym wedi mynd i’r afael â’r broblem drwy gydweithio â’n ffermwyr denantiaid i gau 300 cilometr (186 milltir) o hen ffosydd gyda 30,000 argae i godi’r lefel trwythiad. Yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang bydd y gwaith hwn hefyd o fudd i fywyd gwyllt yr ardal – sefyllfa lle bydd pawb ar eu hennill.”