Mynedfa newydd i Eryri

Hyd yma, cyfyngwyd tystiolaeth o bresenoldeb yr Ymddiriedolaeth yn Eryri i’n cerbydau, staff ar waith a’n harwyddion – ond eleni bydd hyn yn newid gan ein bod wedi prynu adeilad hardd newydd, Bwthyn Ogwen, yn ddiweddar.

Bwthyn Ogwen, Eryri ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Bwthyn Ogwen, Eryri
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau yn Eryri, y darn mwyaf o dir gwyllt yn Lloegr a Chymru, wedi bod yng ngofal yr Ymddiriedolaeth ers 1951. Defnyddiwyd Bwthyn Ogwen fel canolfan gweithgareddau awyr agored ers blynyddoedd a gobeithiwn barhau â’r traddodiad hwn. Rydym yn bwriadu defnyddio’r adeiladau i annog miloedd o bobl i fentro i’r awyr agored ac yn nes at fyd natur.

Mae’r bwthyn, a saif ar yr A5, wedi bod yn fan cychwyn i lawer o lwybrau cerdded a dringo poblogaidd. O’r gwanwyn hwn dyma fydd canolfan newydd ein tîm o geidwaid yn y Carneddau a’r Glyderau hefyd. Felly, os ydych yn yr ardal, galwch heibio am sgwrs ac i ddysgu mwy ynglŷn â sut i wneud yn fawr o’ch ymweliad ag Eryri.

Gwartheg Dinefwr yn sêr y sgrîn deledu am noson

Rhoddwyd sylw unwaith eto i’r brîd hynafol Gwartheg Gwyn Parc Dinefwr wrth iddynt gael eu dangos ar un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain y mis hwn.

Gwartheg Gwyn enwog Parc Dinefwr ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gwartheg Gwyn enwog Parc Dinefwr
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ar 18 Ionawr darlledwyd rhaglen Countryfile y BBC o Barc Dinefwr, meddiant yr Ymddiriedolaeth yn Sir Gaerfyrddin, a chafwyd hanes difyr y gyr eiconig o Wartheg Gwyn y Parc.

Mae cofnodion am Wartheg Gwyn Parc Dinefwr yn dyddio’n ôl i’r flwyddyn 920 ac fe’u crybwyllwyd yng nghyfreithiau Hywel Dda. Roedd yn byw yng Nghastell Dinefwr, sy’n edrych i lawr dros y tirlun a gynlluniwyd o flaen Tŷ’r Drenewydd ac a borir heddiw gan y gwartheg.

Mae’r cyflwynydd Adam Henson, sy’n enwog am ei ran ‘Adam’s Farm’ ar y rhaglen, yn gyfarwydd â’r brîd cyntefig gan ei fod ef, ynghyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn berchen ar un o’r casgliadau olaf o’r gwartheg yn y DU. Bu’n sefyll ymysg y gwartheg wrth sgwrsio â staff a helpu’r cowmon gyda’i orchwylion beunyddiol.

Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Carol Bailey a Dai Hart oedd yn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth yn ystod y diwrnod o ffilmio a bu’r ddau’n amlygu pwysigrwydd yr anifeiliaid o ran cadwraeth a’u hanes hir yng Nghymru.

Roedd cefndir y Gwartheg Gwyn o ddiddordeb arbennig i Adam Henson, sydd wedi credu erioed mai’r Rhufeiniaid â’u cyflwynodd i’r DU.

Meddai Sophie Thomas, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau’r Ymddiriedolaeth yn Sir Gaerfyrddin, “Roeddem yn gallu herio theori Adam am DNA y Gwartheg Gwyn oherwydd yn ddiweddar rhoddwyd profion genetig ar waith arnynt, a chafwyd ar ddeall mai ychydig iawn o gysylltiad, os oedd cysylltiad o gwbl, oedd rhwng ein gwartheg â Gwartheg Gwyn yr Eidal.

Mae’r rhifyn o Countryfile sy’n dangos Dinefwr ar gael i’w wylio yma drwy gyfrwng BBC iPlayer.

Cynhelir teithiau rheolaidd ac mae llwybr hunan-dywys o amgylch Gwartheg Gwyn Parc Dinefwr. Ffoniwch 01558 824512 neu ewch i www.nationaltrust.org.uk/dinefwr

Arfordir Cymru 2015

Gan fod Apêl y Glannau yn 50 oed, rydym yn neilltuo 2015 fel blwyddyn arfordir Cymru a’n bwriad yw cynnal digwyddiadau a phrojectau newydd i amlygu ein gofal am rannau o’r arfordir sydd ymysg yr harddaf yn y byd.

Hedfan barcud ym Mae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, Abertawe, Cymru ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar

Hedfan barcud ym Mae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, Abertawe, Cymru
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar

Ynghyd â llyfryn arbennig, mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru’n cynllunio cyflwyniad fideo newydd trawiadol o’r arfordir o’r awyr, a fydd ar gael ar-lein. Wrth gydweithio gyda Chadw Cymru’n Daclus, rydym wedi datblygu fwyfwy ar ap Arfordir Cymru a chynhelir digwyddiadau ar safleoedd arfordirol ledled y wlad.

Mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn gwarchod 157 milltir o’r arfordir sy’n hoff gennych chi, rhywbeth rhyfeddol sy’n digwydd oherwydd cyfraniadau parhaus gan y cyhoedd. Dyna ddwy filltir o’r arfordir ar gyfartaledd sydd wedi eu hachub bob blwyddyn ers sefydlu’r apêl ym 1965. Diolch i chi am eich cefnogaeth; heb hon ni fyddem yn gallu gwarchod mannau arbennig i bawb, am byth.

Hanes yr Apêl

Rydym yn gallu gofalu am ardaloedd o harddwch eithriadol fel Bae Rhosili a Stagbwll a thraethau hyfryd a dirgel Ceredigion, Llŷn ac Ynys Môn o ganlyniad i lwyddiant Apêl y Glannau, ymgyrch arbennig i godi arian a lansiwyd ym 1965.

Edrych dros dywod tonnog ger Twyni Chwitffordd, Penrhyn Gŵyr, Cymru ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/David Noton

Edrych dros dywod tonnog ger Twyni Chwitffordd, Penrhyn Gŵyr, Cymru
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/David Noton

Yn yr 1930au, pan roedd yr Ymddiriedolaeth yn gwarchod dim ond wyth milltir o arfordir Cymru, daeth yr hanesydd Charles Trevelyan ar ymweliad â Sir Benfro a chafodd gryn fraw o weld bod datblygiad yn bygwth harddwch yr arfordir. Meddai “Mae angen gwarchodaeth ar frys ar yr arfordir yn ei holl ogoniant”. Yng nghanol yr 1960au lansiwyd yr apêl gyda phryniant Twyni Whitffordd ar Benrhyn Gŵyr. Ers hynny, mae ein gwarchodaeth o rannau gorau arfordir Cymru wedi cynyddu i gyfanswm o 157 milltir, sef oddeutu un filltir ym mhob deg.

Crybwyllwyd y syniad o apêl i warchod y glannau am y tro cyntaf gan Christopher Gibbs, y Prif Asiant ar y pryd, mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Mawrth 1962. Cynigiodd y dylid lansio apêl “am arian i brynu tir neu gyfamodau er mwyn gwarchod arfordir Lloegr a Chymru” mewn cydweithrediad â’r ‘Council for the Protection of Rural England’.

Cynhaliwyd digwyddiad swyddogol cyntaf o bwys Apêl y Glannau ar 12 Tachwedd 1964, sef cinio bach yn Neuadd y Gwerthwyr Pysgod, gyda’r nod o ddod â’r project ‘i sylw arweinwyr diwydiant a masnach’.

Daethpwyd â’r apêl i sylw aelodau’r Ymddiriedolaeth yng nghyfarfod blynyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Royal Festival Hall, Llundain, ar 8 Mawrth 1965 ac at sylw’r cyhoedd ar 23 Ebrill 1965 pan oleuwyd cyfres o danau a choelcerthi ar fannau uchel ledled y wlad gan amrywiol gyrff ieuenctid i nodi sefydlu’r apêl.

Cynhaliwyd lansiad swyddogol yr apêl mewn cinio ym Mansion House ar 11 Mai 1965 pan roddodd y Tywysog Philip, a oedd wedi cytuno i fod yn noddwr yr apêl, araith i 250 o westeion dethol yn gofyn am eu cefnogaeth. O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, derbyniwyd nifer o gyfraniadau sylweddol (yn ogystal â chyfraniad o £250,000 a oedd wedi ei roi eisoes gan y Trysorlys) ac fe gafodd Apêl y Glannau gychwyn da.

Her y Tridant

Rydym yn dathlu llwyddiant Apêl y Glannau – ond mae’r gwaith o godi arian yn parhau – ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gerdded adrannau o’r arfordir yn cludo ‘Tridant Neifion’ ar y daith.

Y gwirfoddolwr George Smith yn naddu ‘Tridant Neifion’ ar gyfer Apêl y Glannau ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Lowri Roberts

Y gwirfoddolwr George Smith yn naddu ‘Tridant Neifion’ ar gyfer Apêl y Glannau
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Lowri Roberts

George Smith (yn y darlun), gwirfoddolwr sy’n gweithio yng Nglan Faenol, ger Bangor, yw crëwr ‘Tridant Neifion’. Meddai, “Rydw i wedi defnyddio pren o’r goedlan leol ar hyd glan yr afon Menai i gerfio tridant gyda’i dri phigyn”. “Rydw i wrth fy modd gyda defnyddiau naturiol ac yn hoffi her. Cerflunio’r tridant unigryw hwn ar gyfer ei gludo ar hyd yr arfordir yw fy nghyfraniad i at achos mor dda”.

Drwy gydol 2015, y nod yw gweld y tridant yn cael ei gludo ar hyd holl arfordir Cymru sy’n cynnwys yr 157 milltir a warchodir gennym. Mae Richard Neale, sy’n rheoli Project Arfordir Cymru, yn erfyn ar fwy o bobl fel George i wneud rhywbeth arbennig i ddathlu ein harfordir yn 2015.

“Rydym yn gofyn i bobl ein helpu i godi arian i’n galluogi i greu dros 10 cilometr o lwybrau arfordirol newydd yng Nghymru yn 2015. Bydd y rhain yn cysylltu Llwybr poblogaidd Arfordir Cymru gyda rhai o’r safleoedd bywyd gwyllt gorau yn ein gofal, yn cynnwys pump o guddfannau gwylio bywyd gwyllt newydd a phedwar llwybr hunan-dywys.”

Os ydych yn barod am yr her cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Lowri Roberts, Swyddog Project yr Arfordir (ar lowri.roberts@nationaltrust.org.uk) cyn 31 Ionawr, gan nodi pa mor bell yr hoffech gerdded a pha adran yr hoffech ymgymryd â hi.