Ffosydd: allwedd annhebygol i reoli gollyngiadau o garbon

Rydym i gyd yn ceisio dod o hyd i ddulliau cyfrifol o leihau ein gollyngiadau o garbon. Fodd bynnag, mae swm enfawr o garbon deuocsid hefyd yn cael ei ‘gadw’ mewn cynefinoedd o fawndir fel y rhai sy’n cael eu gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru.

Andrew Roberts a Pete Jones yn archwilio craidd mawndir ar y Migneint ar Stad Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, i’r de o Fetws-y-coed ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Helen Buckingham

Andrew Roberts a Pete Jones yn archwilio craidd mawndir ar y Migneint ar Stad Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, i’r de o Fetws-y-coed
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Helen Buckingham

Cawsom air gydag Andrew Roberts, Prif Geidwad Stad Ysbyty, a welir yn y llun uchod yn archwilio canlyniadau digon di-nod yr olwg, ond defnyddiol, o ‘gau ffosydd’ ar ein meddiant i’r de o Fetws-y-coed yng Nghonwy.

“Pe baech wedi dweud wrthyf 30 mlynedd yn ôl pan ymunais â’r Ymddiriedolaeth y byddwn yn rheoli carbon fe fyddwn wedi meddwl eich bod yn siarad trwy eich het. Ond doedden ni ddim yn sylweddoli bryd hynny pa mor bwysig yw mawndir am rwystro nwyon tŷ gwydr rhag mynd i’r atmosffer.

“Bellach rydym yn gwybod bod oddeutu hanner y 100 biliwn tunnell fetrig o garbon sydd wedi eu cloi ym mhridd y DU mewn cynefinoedd mawndir. Dyma fwy na holl fforestydd Ewrop ac, erw-am-erw, mae’n bwysicach na choedwig law’r Amason.

“Un o’r ardaloedd mwyaf o fawn yn y DU yw’r Migneint ar Stad Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, bum milltir i’r de o Fetws-y-coed. Cawsom wybod bod hen ffosydd draenio’n peri i’r storfa bwysig hon o garbon ddirywio, gan ollwng y swm rhyfeddol o 50,000 tunnell fetrig o garbon i’r atmosffer bob blwyddyn. Dyna gymaint â 20,000 o geir teuluol am flwyddyn ar gyfartaledd.

“Rydym wedi mynd i’r afael â’r broblem drwy gydweithio â’n ffermwyr denantiaid i gau 300 cilometr (186 milltir) o hen ffosydd gyda 30,000 argae i godi’r lefel trwythiad. Yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang bydd y gwaith hwn hefyd o fudd i fywyd gwyllt yr ardal – sefyllfa lle bydd pawb ar eu hennill.”

Leave a comment