Hwb i gerbydau trydan

Mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu i roi hwb i farchnad cerbydau trydan Cymru drwy osod pwyntiau gwefru mewn lleoliadau ledled y wlad. Mae’r erthygl isod gan Neil Lewis, perchennog brwdfrydig cerbyd trydan (CT), yn egluro’r cwbl.

Aelod o staff yn gyrru Land Rover drydan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/ John Millar

Aelod o staff yn gyrru Land Rover drydan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/ John Millar

Rydw i’n byw yng Nghaerfyrddin ac yn gweithio yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd fy swydd, sef helpu busnesau bychain i fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol/ynni, yn golygu fy mod yn teithio’r sir. Traethau Bae Caerfyrddin un diwrnod, y bryniau uwchben Llanymddyfri’r diwrnod nesaf.

Ein car teuluol oedd y Galaxy 7-sedd gydag injan 1.9 twrbo disel. Yn rhywbeth arloesol pan y’i prynwyd gennym yn 2000, roeddem yn cynnal busnes gwylio adar ledled gorllewin Cymru gyda’r cerbyd, yn ogystal â theithio i’r Iseldiroedd, Sbaen a de Ffrainc (deirgwaith). Mae wedi cludo byrddau syrffio a chŵn yn ogystal â beiciau mynydd. Mae’n llawn tywod ac arogleuon bob amser! A dim ond y plant oedd yn gyfrifol am hynny.

Fodd bynnag, roedd y 35 milltir y galwyn yn dechrau treiddio i fy nghydwybod. Edrychais ar y rhyngrwyd a’r hysbysebion papur newydd ac roedd yn ymddangos fod technoleg trydan yn datblygu fwyfwy. Cyrhaeddodd fy ngherbyd trydan coch ar drelar gwastad a ffarweliwyd â’n car teuluol hoff heb fawr o lol.

Gyrrodd fy ngwraig a minnau cyn belled â fferm Cwmcerrig ar ryw fore Sul i gael brecwast yn Cross Hands – roedd hanner y wefr trydan wedi ei ddefnyddio – a fyddem yn cyrraedd gartref? Beth oeddwn i wedi ei wneud?

Yn araf deg, dysgais. Roeddem wrth ein bodd gyda’r codi cyflymder ac yn rhyfeddu at yr ail-wefru wrth fynd i lawr elltydd. Dechrau teithio’n bellach, ac edrych cymaint ar y teclyn olrhain taith fel fy mod i’n cael poen yn fy ngwar … yn llythrennol. Yn y pen draw, dysgais mai math o “ddyfalu” oedd y teclyn hwn yn seiliedig ar sut yr oeddwn wedi bod yn gyrru’n ddiweddar. Amrywia’r ystod deithio o 40 milltir i 50 i 60 i 70 … ac erbyn hyn rhoddaf gynnig ar deithio 80 milltir!

Lle mae’r pwyntiau gwefru? Beth yw Zap-map? Ar y dechrau, mis Ionawr 2013, yr unig bwynt gwefru yn yr ardal oedd ar fferm gartref Parc Dinefwr, Llandeilo. Wedi eu darparu gan Zerocarbonworld a’u gosod/cynnal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw eu casgliad solar 50kw, roedd yn braf gwybod nad oeddwn ar fy mhen fy hun!

Ar ôl ymweld â Dinefwr gyda’r plant a’r ci yn y cefn, a chael paned o goffi yno, braf oedd dychwelyd adref gan wybod ein bod wedi gwario ein harian ar goffi masnach deg yn hytrach na disel. Roedd yn braf teithio’n araf ar adegau. Roeddem yn hoff iawn o yrru i lawr i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Stagbwll er mwyn ceisio gweld y dyfrgwn wrth gerdded draw am draeth hardd Aberllydan. Yna yn ôl dros y clogwyni llawn gloÿnnod byw i’r Tŷ Cwch am baned o goffi, cyn dychwelyd heibio Bosherston, a gwylio’r ystlumod, i gar llawn gwefr. Perffaith.

Bellach mae mannau gwefru yn Llanymddyfri, Llanwrtyd, Llandrindod, Amgueddfa Drafnidiaeth Abertawe, Rhosili. I gyd yn gwefru’n araf heblaw’r coffi! Rydym hyd yn oed yn gallu teithio i ogledd Cymru drwy Aberystwyth, heibio’r Ganolfan Dechnoleg Amgen a’r gwesty Eco ym Mlaenau Ffestiniog. Pryderu am y pellter? Dim o gwbl!

Rydym yn arbed £1000 pob blwyddyn gyda’n trafnidiaeth carbon-isel. Fodd bynnag, rydw i’n gwario £100 ar goffi.”

Gallwch ddarllen testun llawn y blog hwn ar flog “Troi’n Wyrdd” yr Ymddiriedolaeth yma.

 

Leave a comment