Ymwelwyr galluog a siaradus i’w gweld yn agos

Mae Bae Ceredigion yn gartref i’r teulu mwyaf o ddolffiniaid yn Ewrop; dyma un o’r llu o resymau pam fod pobl yn ymweld ag arfordir Ceredigion. Mae nifer o leoliadau’r Ymddiriedolaeth wedi eu defnyddio ar gyfer y digwyddiad blynyddol i wylio dolffiniaid.

Dolffin trwyn potel yn dawnsio yn nyfroedd Bae Ceredigion © Janet Baxter

Dolffin trwyn potel yn dawnsio yn nyfroedd Bae Ceredigion
© Janet Baxter

Meddai Gwen Potter, Ceidwad Lleol Ceredigion: “Cynhelir y ‘Dolphin Watch’, a gydlynir gan Ben Sampson, Swyddog Cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ers sawl blwyddyn bellach ar arfordir Ceredigion. Roeddem yn falch iawn o allu cymryd rhan yn un o astudiaethau gwylio dolffiniaid hynaf y byd.

Cawsom ddata defnyddiol dros ben gan ein gwirfoddolwyr newydd gwych, yn cynnwys y tad a mab Craig ac Eric Dawe. Bu hefyd yn ffordd wych o barhau’n ymwybodol o ryngweithio rhwng dolffiniaid a chychod ar yr arfordir, ac yn esgus i gadw llygad ar ein teulu preswyl estynedig ar Fae Ceredigion!”

Meddai Eric, sy’n ddeng mlwydd oed, “Penderfynais ymuno â’r arolwg dolffiniaid ar ôl gweld cychod twristiaid yn mynd yn rhy agos at y creaduriaid. Tybiais y byddai’r arolwg yn fodd o helpu pobl i ddeall effaith hyn ar y dolffiniaid.

“Drwy gydol yr arolwg gwelsom forloi, sglefrod môr mwng llew, llawer o ddolffiniaid, a bywyd gwyllt arall. Ar un achlysur gwelsom naw dolffin ar yr un pryd, ond mae’n siŵr bod llawer mwy o dan y don. Ar ddiwedd yr arolwg gwelsom saith dolffin yn neidio’n uchel mewn rhes fel pe baent yn ffarwelio â ni.”

Ychwanegodd Gwen Potter: “Gydag oddeutu 900 o wahanol gliciau cyfathrebu, mae ein dolffiniaid ni yn llawer mwy soffistigedig na’r rhif o 300 o gliciau ar gyfartaledd a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel eraill!”

Brwydro’n ôl yn erbyn y bygythiad i arfordir Cymru

Mae tîm o weithwyr arbenigol yn wynebu her arfordir trawiadol Cymru wrth gael gwared â phlanhigyn ymledol sy’n bygwth rhai o rywogaethau mwyaf prin y DU gyda difodiant.

Dringwyr ar glogwyni Sir Benfro’n mynd i’r afael ag ymlediad cotoneaster ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Dringwyr ar glogwyni Sir Benfro’n mynd i’r afael ag ymlediad cotoneaster
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Rydym ar flaen y gad gyda’r ymgyrch i gael gwared â’r cotoneaster o lannau Penrhyn Gŵyr. Cludwyd y planhigyn o Tsieina a mynyddoedd yr Himalaya gan gasglwyr planhigion dros 200 mlynedd yn . Mewn partneriaeth ・Chyfoeth Naturiol Cymru a Plantlife, sicrhawyd 」86,000 gan Lywodraeth Cymru i waredu’r tresbaswr treisgar.

Un o’r planhigion sydd mewn perygl o gael ei fygu gan y cotoneaster yw llysiau’r bystwn-melyn. Dim ond ar Benrhyn Gŵyr mae’r planhigyn hwn yn tyfu’n wyllt yn y DU gyfan, felly mae’n un o blanhigion prinnaf gwledydd Prydain.

Meddai Alan Kearsley-Evans, rheolwr Arfordir a Chefn Gwlad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: Mae gan rai rhywogaethau o gotoneaster ffurf ymosodol o dyfu ac maent yn gallu ffynnu mewn safleoedd arfordirol agored.

“Mae’n gallu gorchuddio arwynebedd yn eithaf cyflym a thrwy wneud hynny mae’n mygu planhigion eraill a’u rhwystro rhag derbyn eu cyflenwad o ddŵr a golau.”

“Bydd mynd i’r afael â’r cotoneaster yn weithred rheolaeth parhaus ar gyfer y safleoedd hyn oherwydd bod adar yn gallu cludo’r aeron am gryn bellter cyn gollwng yr hadau. Byddwn yn dibynnu ar gymorth cofnodwyr lleol i adael i ni wybod am leoliadau tyfiant o’r newydd er mwyn i ni allu ei reoli’n rhad os ceir hyd iddo’n ddigon cynnar.”

Fel rhan o’r project mae timau o weithwyr wedi bod yn abseilio clogwyni er mwyn cyrraedd y rhannau mwyaf anghysbell o arfordir Gŵyr, sef y man cyntaf yng ngwledydd Prydain i gael ei enwi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym 1956.

Gwestai hynod: Griff Rhys Jones yn olrhain hanes yr Ymddiriedolaeth ar gamera

Drwy gydol yr haf rydym wedi bod yn falch iawn o allu croesawu Griff Rhys Jones gartref i Gymru i fwrw golwg ar waith yr Ymddiriedolaeth. Darlledir ei daith drwy’r wlad, sef y cyntaf o gyfres o raglenni, ar 30 Hydref ar BBC 2 Wales.

Griff Rhys Jones ar waith yn ffilmio ar gyfer ‘National Treasures of Wales’ yn Ninas Oleu, y Bermo ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Neale

Griff Rhys Jones ar waith yn ffilmio ar gyfer ‘National Treasures of Wales’ yn Ninas Oleu, y Bermo
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Neale

Bydd y gyfres, ‘National Treasures of Wales’ yn edrych ar ddull yr Ymddiriedolaeth o fynd i’r afael â’r cymhlethdodau a’r gwrthdaro sy’n digwydd wrth warchod hoff dir a thai Cymru.

Dyma gyfres fydd yn taflu goleuni ar wreiddiau’r Ymddiriedolaeth wrth sôn sut y cafwyd y darn cyntaf o dir, sef Dinas Oleu, y Bermo, ar arfordir gogledd Cymru. Mae Griff hefyd yn ymweld â Mwnt, sy’n gartref i’r grŵp mwyaf o ddolffiniaid trwyn potel yn Ewrop a lle daeth y tir i ddwylo’r Ymddiriedolaeth ym 1963. Hefyd yn y rhaglen gyntaf mae’n ymweld â bae Rhosili, lle mae’n dysgu sut a pham fod y môr yn ‘hawlio’ pentref canoloesol.

Wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen, bydd Griff yn archwilio adeiladau fferm traddodiadol yn Sir Benfro a’r defnydd newydd ohonynt, yn ogystal â dau gartref mawreddog: Plas Newydd ar Ynys Môn a Thŷ Tredegar yng Nghasnewydd, Gwent, a gafwyd yn ddiweddar – ac yn trafod dyfodol yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru.

Mae ‘National Treasures of Wales’ yn cychwyn ar BBC 2 Wales am 7.30yh ar nos Iau 30 Hydref.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn hoff o arfordir Cymru, sy’n cael ei warchod yn rhannol gan yr Ymddiriedolaeth a chyfuniad o gyrff cyhoeddus eraill. Erbyn hyn mae app ffôn clyfar newydd Llwybr Arfordir Cymru yn sicrhau ei bod yn haws nag erioed i ddilyn y llwybr.

Tudalen groeso ap newydd Llwybr Arfordir Cymru ©Cadw Cymru’n Daclus. Defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Tudalen groeso app newydd Llwybr Arfordir Cymru
©Cadw Cymru’n Daclus. Defnyddiwyd gyda chaniatâd.

App swyddogol Llwybr Arfordir Cymru yw’r unig app i roi manylion yr 870 milltir o Lwybr Arfordir Cymru. Nodwedd allweddol yw ei allu i ddarparu gwybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru gyfan yn ogystal â chofnodi cynnydd cerddwyr ar hyd y daith.

Meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadw Cymru’n Daclus: “Rydym wedi derbyn llu o wobrwyon am ein traethau hardd yma yng Nghymru. Mae pobl yn dymuno gwybod ym mhle i ddod o hyd i draethau sydd wedi derbyn gwobrau Baner Las, Arfordir Gwyrdd a Gwobr Glan Môr yr haf hwn, yn ogystal â dysgu mwy am yr ardal leol a’i chyfleusterau a mwynderau. App Arfordir Cymru yw’r arf perffaith ar gyfer cerddwyr, teuluoedd ac unigolion sy’n dymuno archwilio arfordir Cymru.”

Mae’r app yn cynnig gwybodaeth am lawer o draethau hardd Cymru a chyn bo hir bydd yn darparu manylion am leoliadau arfordirol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â busnesau ac atyniadau – pob dim o westai a bwytai i siopau a chaffis. Mae’n gweithio mewn ardaloedd sydd heb signal ffonau symudol hefyd drwy lawrlwytho mapiau a gwybodaeth cyn i chi ddechrau cerdded, sy’n golygu ei bod yn hawdd rhoi eich taith ar hyd arfordir Cymru gyfan ar y gweill.

Am fanylion llawn am Lwybr Arfordir Cymru ewch i’w gwefan.

NEWYDDION DIWEDDARAF: Mae fersiwn mwy diweddar o’r ap bellach ar gael sy’n trafod y 25 o leoliadau’r Ymddiriedolaeth ar arfordir Cymru sydd ar frig y rhestr

 

De Orllewin Cymru: Taith Pentir Pen Anglas, Sir Benfro

Mae’r daith bentir gylchol hon yn cynnwys rhan o lwybr yr arfordir yn harddwch Sir Benfro. Gyda thro yn ei chynffon, cewch olygfeydd gwych ar draws Bae Ceredigion o’r llwybr a chyfle i ddiosg eich esgidiau ar y daith antur hon ar dir gwyllt i deuluoedd.

Ceidwad Ardal gogledd Sir Benfro gyda ‘chyfaill’ ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Stephen Merrill

Ceidwad Ardal gogledd Sir Benfro gyda ‘chyfaill’
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Stephen Merrill

O Wdig, dilynwch rostir arfordirol garw i gyrraedd ffurfiannau craig folcanig drawiadol pentir Pen Anglas sy’n amgylchynu’r corn niwl. Islaw’r golofn garreg mae colofnau basalt chwech-ochrog sydd yr un fath â’r rhai a welir hefyd yn Sarn y Cawr yng Ngogledd Iwerddon ac ar ynys Staffa yn Ynysoedd Heledd.

Gallwch ddeffro eich synhwyrau wrth gerdded yn droednoeth ar hyd llwybr y strimyn atal tân rhwng Pwynt 5 a 6 ar y map. Mae’r llwybr amlwg ar hyd canol y strimyn atal tân yn esmwyth ac yn fawnog gyda rhywfaint o lystyfiant isel, gro mân a brigiadau creigiog. Byddwch yn ofalus a byddwch yn barod i faeddu’ch traed. Cewch gysylltiad uniongyrchol ag ysbryd y lleoliad yn ogystal â chyflawni un o’r 50 o bethau i’w gwneud cyn cyrraedd 11¾ oed.

“Rydw i wrth fy modd efo’r teimlad o fod mewn lle gwyllt a garw”, meddai Ceidwad Ardal Gogledd Sir Benfro, Nicky Middleton-Jones, “a phan fyddwn yn diosg ein hesgidiau mae’n well fyth. Gyda’r gwynt yn ein gwallt a’r fawnog feddal rhwng bodiau’n traed, rydw i’n teimlo’n wirioneddol agos at fyd natur. Rydym yn hoff iawn o edrych tua’r môr wrth chwilio am forloi llwyd ac weithiau, os byddwn yn lwcus, cawn sioe fach gan y llamidyddion!”

Am fwy o wybodaeth am yr arfordir o Ben Strwmbwl i Geredigion cliciwch yma.

Canolbarth Cymru: Aberystwyth i Fynachdy’r Graig, Ceredigion

Er nad yw’r daith hon o bosibl yn addas i rai nad ydynt yn hoff o uchder, mae hon yn daith wirioneddol hyfryd sy’n cychwyn yn nhref glan môr hanesyddol ac urddasol Aberystwyth, ar hyd arfordir hardd Bae Ceredigion, i’r cyn-faenor Mynachdy’r Graig.

Ceidwad Ardal Ceredigion, Gwen Potter, gyda rhai ymwelwyr ifanc ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Neale

Ceidwad Ardal Ceredigion, Gwen Potter, gyda rhai ymwelwyr ifanc
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Neale

Taith 4 i 5 awr yw hon sy’n rhoi cyfle i chi edrych ar y golygfeydd draw am Ynys Aberteifi, Ynys Enlli, Penrhyn Llŷn ac Eryri.

Mae Aberystwyth yn dref wirioneddol hanesyddol. Adeiladwyd y castell yma ar orchymyn Edward 1 ar ôl ei fuddugoliaeth dros Geredigion ym 1277. Fe’i cipiwyd gan y Cymry sawl gwaith, y tro cyntaf ym 1282. Ym 1404 fe’i cipiwyd gan Owain Glyndŵr, a’i daliodd hyd 1408. Yn ystod y gwarchae hwn defnyddiwyd canon, o bosibl am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain.

Meddai Gwen Potter, y Ceidwad Ardal a ddewisodd y daith hon, “Dyma Geredigion ar ei mwyaf gwyllt – efallai y cewch gip ar frân goesgoch neu ddolffin ond fawr o ddim byd arall. Yma, mae’r drain gwynion wedi eu plygu gan wynt y môr a gallwch weld Bae Ceredigion gyfan, o Eryri i lawr i Sir Benfro.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn a gynigir gan y daith hon, cliciwch yma.

Gogledd Orllewin Cymru: Taith gylch Cemlyn a Llanrhwydrys, Ynys Môn

Ar y daith hyfryd hon ar arfordir Ynys Môn, cofiwch chwilio am forloi llwyd yn gorwedd ar y creigiau oddi ar yr arfordir a nodwedd ddaearegol brin yn y DU, graeanfryn, a ffurfiwyd, yn yr enghraifft hon, ar ffurf morfil a olchwyd i’r lan.

Ceidwad Ardal Ynys Môn, Bryn Jones, yn dangos y llwybr i ddau ymwelydd ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Neale

Ceidwad Ardal Ynys Môn, Bryn Jones, yn dangos y llwybr i ddau ymwelydd
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Neale

Dyma daith dair-milltir llawn awyrgylch ar hyd traethau, llwybr yr arfordir a lonydd cefn gwlad. Os byddwch yn ei amseru’n iawn fe welwch y machlud dros Fôr Iwerddon. Yma mae cynhanes hynafol yn ogystal ag atgofion o gyraeddiadau dynol mwy diweddar a cherrig coffa am golled.

Bryn Jones yw’r Ceidwad Ardal: “Rydw i’n treulio llawer o amser yng Nghemlyn oherwydd lleolir ein swyddfa yn Hen Blas, sy’n edrych i lawr dros y morlyn. Os dewch draw yn gynnar yn yr haf, mi fyddwch yn siŵr o gael eich synnu gan sŵn, prysurdeb a bwrlwm y nythfa o fôr-wenoliaid ar ynysoedd y morlyn.”

Wrth gyrraedd bae bach Henborth cofiwch chwilio am raeanfryn Henborth – ffurfiant craig sy’n edrych fel morfil a olchwyd i’r lan. Dyddodion rhewlifol sy’n ffurfio tomenni hirfain yw graeanfryniau sy’n datgelu cynnwys daearegol eu hamgylchiadau yn mynd yn ôl cannoedd o filiynau o flynyddoedd. Maent yn nodweddion prin ym Mhrydain ac mae hon yn enghraifft arbennig o dda.

Am fwy o wybodaeth am y daith hon a’r ardal o gwmpas, cliciwch yma

De Ddwyrain Cymru: Ysgyryd Fawr, Y Fenni

Mae Cymru’n adnabyddus ledled y byd fel gwlad o rith a chwedl. Mae’r daith gerdded hon ar gwr Bannau Brycheiniog yn cael ei disgrifio fel un ganolog ac mae hi’n cynnwys y bryn o’r enw Ysgyryd Fawr.

Prif Geidwad Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy, Rob Reith a’i gynorthwyydd, Jessica. ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Prif Geidwad Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy, Rob Reith a’i gynorthwyydd, Jessica.
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Enw arall ar y bryn yw’r Mynydd Sanctaidd. Mae’r gair ‘ysgyryd’ yn disgrifio ffurf y bryn, ac yn golygu rhywbeth sydd wedi crynu neu wedi ei falurio. Yn ôl y chwedl, dywedir bod rhan o’r mynydd wedi dymchwel pan groeshoeliwyd Iesu.

Er na fydd modd i ni wybod y gwirionedd ynglŷn â hyn, mae’r daith yn eich tywys heibio safle eglwys ganoloesol ac un o’n “dosbarthiadau awyr agored” a ddefnyddir gan ddisgyblion ysgolion i ddysgu am gadwraeth cefn gwlad.

Robert Reith yw ein Prif Geidwad ym Mannau Brycheiniog a Sir Fynwy. “Rydw i’n hoffi’r daith ymarferol hon oherwydd y diddordeb hanesyddol, o gaer oes yr haearn ac eglwys Gatholig i weddillion hen ffermdy, pydewau golosg a thyllau chwarel. Wrth i chi edrych o’ch cwmpas, fe welwch nad yw’r tirlun hwn yn naturiol.”

Am fwy o fanylion y daith hon a theithiau eraill, cliciwch yma.

Gogledd Ddwyrain Cymru: Taith Coedwig Fawr Erddig

Yn Erddig rydych yn siŵr o gael paned dda o de bob amser. Wrth ddilyn y daith hamddenol hon o amgylch y gerddi fe welwch fath gwahanol iawn o gwpan a soser.

Rheolwr Gwirfoddolwyr ac Ymwneud â’r Cyhoedd Erddig a Chastell y Waun, Susan Jones ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Rheolwr Gwirfoddolwyr ac Ymwneud â’r Cyhoedd Erddig a Chastell y Waun, Susan Jones
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Nodwedd ddŵr anghyffredin a adeiladwyd ym 1775 yw’r Cwpan a Soser ac mae’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw. Mae dŵr y Nant Ddu’n ymgasglu yn y basn crwn, yn llifo dros y gored ac yna drwy dwnnel ychydig o fetrau i ffwrdd. Dyma ffordd wych o rwystro erydiad glan yr afon ac mae’n dal ar waith heddiw.

Meddai Susan Jones, Rheolwr Gwirfoddolwyr ac Ymwneud â’r Cyhoedd Castell Y Waun: “Does dim yn well gen i na chrwydro’r Goedwig Ddu a gwrando am gnocell y coed a gwylio bywyd gwyllt. Gwelais garlwm yn rhuthro ar draws y llwybr un gyda’r nos. O lwybrau’r Gerddi Pleser i’r Mwnt a Beili, mae taith drwy’r Goedwig Fawr yn wir lwybr drwy gyfnodau hanes.

Mae’r daith ddifyr ond eithaf hawdd hon yn cymryd rhyw hanner awr ac fe gewch fanylion llawn yma.