Mae menter newydd cyffrous ar y gweill ers tro i’n helpu i ddeall a gwarchod glaswelltir calchog arbennig Penrhyn Gŵyr.
Brigiad trawiadol o galchfaen yw Craig Cwm Ivy, sy’n codi o’r twyni tywod o’i hamgylch ar Dwyni Whitffordd. O ddiwedd y gwanwyn hyd yr hydref, mae’r llethrau creigiog yma’n cynnal amrywiaeth hyfryd o blanhigion lliwgar, llawn neithdar, llawer ohonyn nhw’n arbennig i bridd calchog. Ymysg y rhywogaethau a geir yma mae pig-yr-aran ruddgoch, gwreiddiriog, crydwellt, y bengaled fawr, mandon fach a’r llin y tylwyth teg tlws. Cofnodwyd o leiaf saithdeg a phump o rywogaethau ar y llethr gorllewinol yn unig. Mae’r rhain yn eu tro’n cynnal nifer enfawr o wenyn, gloÿnnod byw a rhywogaethau eraill o infertebratau.
Ar raddfa fyd-eang, mae glaswelltiroedd calchog llawn rhywogaethau fel hyn yn eithaf prin. Mae’n hanfodol ein bod yn monitro’r llecyn os ydym yn mynd i allu asesu cyflwr y glaswelltir a phenderfynu sut i’w reoli, a sicrhau fod ei amrywiaeth gyfoethog o blanhigion yn parhau i ffynnu ar y safle hardd hwn.
Yr haf hwn rhoddwyd y pecynnau monitro newydd a luniwyd gan Helen Buckingham, Ymgynghorydd Cadwraeth Natur, ac Alan Kearsley-Evans, Rheolwr Gŵyr a Cheredigion, i’w defnyddio gan staff a gwirfoddolwyr, ar brawf. Derbyniwyd y rhain gyda chryn frwdfrydedd ar sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd yn yr haf, sy’n golygu fod gennym bellach grŵp bach o wirfoddolwyr hyfforddedig ac awyddus sy’n barod i barhau â’r gwaith monitro’r flwyddyn nesaf. Yn yr hydref maen nhw hefyd wedi helpu i fewnbynnu a dadansoddi’r data, ac wedi bwydo’r canlyniadau’n ôl i’r cynllun rheolaeth ar gyfer y graig.
Mae projectau fel hyn yn ddull hynod o effeithiol o hybu hyder, casglu gwybodaeth, dysgu medrau a chynyddu cyfleoedd gwirfoddolwyr am waith cyflogedig; gwobr deg am y gwaith gwych y maen nhw’n ei gyflawni.