Roedd yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru wrth wraidd cynhyrchiad theatrig cyffrous, teimladwy a mentrus ar lethrau’r Wyddfa ym mis Medi. Cynhaliwyd “Yr Helfa” mewn tywydd hynod o braf a derbyniodd ganmoliaeth uchel o bell ac agos.
Roedd yr archwiliad pwerus o gylch blynyddol ffermio defaid, Yr Helfa, yn ddiweddglo i dair blynedd o waith gwylio bywyd ar fferm fynydd yr Ymddiriedolaeth, Hafod y Llan ar lethrau’r Wyddfa.
Cynlluniwyd taith ryfeddol ar droed, yn cynnwys arddangosfeydd a pherfformiadau, gan National Theatre Wales. Fe’i hysbrydolwyd gan y lleoliad hyfryd hwn, y gwaith beunyddiol, ei hanes a’i phobl. Fe’i crëwyd a chyfarwyddwyd gan Louise Ann Wilson ac yn ystod y perfformiad cyflwynwyd barddoniaeth newydd gan fardd cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke.
Cafodd y digwyddiad adolygiad disglair gan Lyn Gardner yn The Guardian: “Mae’n … gwneud i chi sylwi ar yr hyn sydd wedi bod yno erioed ac a fydd yn parhau yno ymhell ar ôl i ni fynd: dŵr yn llifo, y mwsogl yn ymledu’n araf ar draws y cerrig, y copaon tywyll a dirgel yn erbyn awyr di-ben-draw.
Roedd Vanessa Griffiths, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn falch iawn o groesawu’r digwyddiad i Hafod y Llan: “Roedd yn gyfuniad gwych o olygfeydd a synau ar draws y cwm; hynod o deimladwy ac yn denu’n sylw. Rydym bob amser yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o godi proffil ein gwaith ar dir Cymru ac roedd hwn yn ymdrech gwych ar y cyd mewn partneriaeth â National Theatre Wales a Migrations.”