Darlun yn dweud y cyfan yn Erddig

Fel y gwelwch o’r lluniau yma, manteisiodd Erddig ar nosweithiau tywyll y gaeaf i ddangos gwir harddwch y ty a’r gerddi. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar nosweithiau Gwener a Sadwrn drwy gydol mis Rhagfyr, yn hynod o drawiadol.

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig ©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Plasty Erddig wedi ei oleuo ar gyfer y Nadolig
©Ymddiriedolaeth Genedlaethol/TBC

Bleiddiaid yn Erddig

Os ewch chi i lawr i’r coed yn Erddig heddiw … bydd pâr o fleiddiaid bendigedig yn aros amdanoch. Y cerfluniau pren yma yw’r ychwanegiadau diweddaraf i “Ffau’r Bleiddiaid”, man chwarae naturiol y meddiant.

Simon O’Rouke yn gorffen y gwaith o lunio un o fleiddiaid Erddig © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Saul Burton

Simon O’Rouke yn gorffen y gwaith o lunio un o fleiddiaid Erddig © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Saul Burton

Mae’r man chwarae wedi ei enwi ar ôl Iarll Cyntaf Caer, Hugh D’Avranches a adnabuwyd fel Y Blaidd, ac a adeiladodd gastell yma yn y Canoloesoedd.

Gwahoddwyd yr artist lleol a’r cerflunydd llif gadwyn Simon O’Rourke, sy’n enwog yn rhyngwladol, i naddu’r bleiddiaid un penwythnos gyda chynulleidfa frwd yn ei wylio.  Daeth y pren o goeden gastan bêr 220 mlwydd oed oedd wedi ei dymchwel gan y gwynt.

Bu’r ymwelwyr yn gwylio’n astud wrth i Simon lunio’r creaduriaid o bren mewn dim ond ychydig oriau.

Dyma fwy o’r hanes gan Reolwr Parc a Gerddi Erddig, Saul Burton:

“Defnyddiodd Simon amrywiaeth o lifiau cadwyn i lunio’r creaduriaid trawiadol, ac i gwblhau manylion y gwaith defnyddiodd ychydig o bapur tywod.  Yna defnyddiodd lamp losgi i ddiffinio’r wynebau, a dod â’r creaduriaid yn fyw.”

Mae’r cerfluniau’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr Erddig ac yn mynd yn wych gyda thema’r man chwarae naturiol newydd.

Cewch wybod mwy am Erddig