Os ewch chi i lawr i’r coed yn Erddig heddiw … bydd pâr o fleiddiaid bendigedig yn aros amdanoch. Y cerfluniau pren yma yw’r ychwanegiadau diweddaraf i “Ffau’r Bleiddiaid”, man chwarae naturiol y meddiant.
Mae’r man chwarae wedi ei enwi ar ôl Iarll Cyntaf Caer, Hugh D’Avranches a adnabuwyd fel Y Blaidd, ac a adeiladodd gastell yma yn y Canoloesoedd.
Gwahoddwyd yr artist lleol a’r cerflunydd llif gadwyn Simon O’Rourke, sy’n enwog yn rhyngwladol, i naddu’r bleiddiaid un penwythnos gyda chynulleidfa frwd yn ei wylio. Daeth y pren o goeden gastan bêr 220 mlwydd oed oedd wedi ei dymchwel gan y gwynt.
Bu’r ymwelwyr yn gwylio’n astud wrth i Simon lunio’r creaduriaid o bren mewn dim ond ychydig oriau.
Dyma fwy o’r hanes gan Reolwr Parc a Gerddi Erddig, Saul Burton:
“Defnyddiodd Simon amrywiaeth o lifiau cadwyn i lunio’r creaduriaid trawiadol, ac i gwblhau manylion y gwaith defnyddiodd ychydig o bapur tywod. Yna defnyddiodd lamp losgi i ddiffinio’r wynebau, a dod â’r creaduriaid yn fyw.”
Mae’r cerfluniau’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr Erddig ac yn mynd yn wych gyda thema’r man chwarae naturiol newydd.
Cewch wybod mwy am Erddig